Gwybodaeth am y prosiect

Mae Harbourview yn Grant Rhwydweithio DU/Iwerddon ESRC-IRC

Uchelgais rhwydwaith arfaethedig Iwerddon–Cymru yw codi ymwybyddiaeth o harbyrau fel treftadaeth arfordirol.

Nid yw harbyrau hanesyddol, fel elfennau seilwaith, yn adeiladau nac yn gofadeiladau, ac maent yn cael eu colli rhwng cylchoedd gwaith dosbarthiadau treftadaeth. Ond eto, ar yr ymyl, maent yn hanfodol ar gyfer dehongli meddiant dynol ar ynysoedd yn hanesyddol. Mae lefelau môr sy’n codi a dwyster stormydd cynyddol o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd yn rhoi’r elfennau bregus hyn mewn perygl llythrennol o ddiflannu. Yng nghyd-destun gwleidyddol ac economaidd Brexit, mae rhaniadau newydd yn cael eu creu a ffiniau’n cael eu pennu a all effeithio ar lawer mwy na chytundebau masnach. Mae pwysigrwydd ymchwilio i hanes mwy cynnil o berthnasoedd graddfa fach ar draws y dyfroedd hyn, a’i ddatgelu, yn amserol bellach.

Gyda’r nod o adfer cysylltiadau coll, mae prosiect Harbourview yn amlygu cysylltiadau cudd drwy arolygon cyfranogol sy’n defnyddio dulliau hygyrch newydd o recordio 3D a delweddu mewn safleoedd cynnil ar bob ochr i Fôr Iwerddon. Dros y blynyddoedd diweddar, mae prosiectau archaeoleg cymunedol wedi llwyddo i ymgysylltu â’r cyhoedd ar ystod o safleoedd ac ar draws cyfnodau hanesyddol helaeth. Yn anochel, roedd y llwybrau a mannau cychwyn a glanio hyn yn llwybrau nid yn unig ar gyfer nwyddau, ond hefyd ar gyfer gwybodaeth, credoau, a dealltwriaeth ehangach. Drwy gymathu pedwar model digidol cymaradwy y gellir eu defnyddio a’u rhannu â thimau cymunedol yn Iwerddon a Chymru, nod Harbourview yw sefydlu deialogau newydd i hwyluso chwilfrydedd a myfyrdod cyfoethocach.

Pobl:

Yr Athro Cysylltiol Elizabeth Shotton, Coleg Prifysgol Dulyn

Professor Oriel Prizeman

PYr Athro Oriel Prizeman, Prifysgol Caerdydd